Mae'r RhGMB yn cefnogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu harholiadau mathemateg TGAU a Safon Uwch. Mewn rhai ardaloedd mae Cydlynwyr Ardal RhGMB yn trefnu digwyddiadau adolygu undydd. Mae'r RhGMB Cymru hefyd yn darparu recordiadau adolygu ar-lein ar gyfer yr holl fodiwlau pur a chymwysiadau ar gyfer y rhan fwyaf o fanylebau. Yn ogystal, mae'r RhGMB Cymru yn darparu recordiadau o sesiynau adolygu ar gyfer Mathemateg TGAU Haen Uwch.
Er mwyn bod yn barod ar gyfer eich arholiadau, mae'n bwysig adolygu cynnwys yr unedau rydych chi wedi'u hastudio.
Rhai awgrymiadau i'ch helpu chi:
Mae digwyddiadau adolygu yn gyfle gwych i dreulio diwrnod ar baratoi arholiadau dwys.
Mae digwyddiad adolygu fel arfer yn canolbwyntio ar gynnwys uned benodol.
Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau adolygu yn agored i unrhyw fyfyriwr - cysylltwch â'r trefnydd digwyddiadau adolygu i gadarnhau ai dyma'r achos ac i gadarnhau presenoldeb.
Mae mwyafrif digwyddiadau adolygu RhGMB yn cael eu cynnal mewn prifysgol. Mae llawer o fanteision i hyn; mae myfyrwyr ysgol a choleg yn gwerthfawrogi cyfleoedd i brofi dysgu mewn amgylchedd ‘gwahanol, newydd ac ysbrydoledig' y gall prifysgol ei gynnig. Yn gyffredinol, mae cyfle hefyd i ddysgu mwy am gyrsiau prifysgol a sut maent yn adeiladu ar y fathemateg y mae myfyrwyr yn ei dysgu yn yr ysgol/coleg.
Cliciwch ar y tab digwyddiadau uchod i weld a oes unrhyw ddigwyddiadau adolygu sydd ar y gweill yn eich ardal chi.
Mae'r RhGMB yn darparu fideos adolygu sy'n seiliedig ar bynciau ar gyfer unedau Pur a Chymhwysol.
Sylwer bod rhai o'r rhain wedi'u cynhyrchu ar gyfer yr hen fanylebau. Mae llawer o'r deunydd hwn yn briodol i fyfyrwyr sy'n gweithio tuag at y manylebau newydd.
Er bod pob ymdrech wedi cael ei wneud i sicrhau cywirdeb pob recordiad, ni all Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb eu cynnwys.
Defnyddiwch y dolenni isod i lywio i dudalennau sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am sut y gall y RhGMB gefnogi'ch adolygu:
Modiwlau CBAC |
Recordiadau |
---|---|
Uned 1 MB |
|
1.1 |
|
1.2 |
|
1.3 |
|
1.4 |
|
1.5 |
|
1.6 |
|
1.7 |
|
1.8 |
|
1.9 |
|
1.10 |
Uned 2 MB |
|
2.1 |
|
2.2 |
|
2.3 |
|
2.4 |
|
2.5 |
|
Uned 3 MB |
|
3.1 |
|
3.2 |
|
3.3 |
|
3.4 |
|
3.5 |
|
3.6 |
|
3.7 |
|
Uned 4 MB |
|
4.1 |
|
4.2 |
|
4.3 |
|
4.4 |
|
4.5 |
|
4.6 |
|
4.7 |
|
4.8 |
|
4.9 |
|
4.10 |
|
4.11 |
|
4.12 |
|
4.13 |
|
4.14 |
|
4.15 |
|
Uned 5 MB |
|
5.1 |
|
5.2 |
|
5.3 |
|
5.4 |
|
5.5 |
|
Uned 6 MB |
|
6.1 |
|
6.2 |
|
6.3 |
|
6.4 |
|
6.5 |
|
6.6 |
|
6.7 |
|
6.8 |
|
6.9 |
|
FM1 Cymraeg |
|
FM3 Cymraeg |
FM3.1 Gwaith ac Egni |
Pur Bellach 1 |
|
Pur Bellach 2 |
|
Pur Bellach 3 |
Am fanylion pellach, anfonnwch ebost i: fmspwales@swansea.ac.uk