Mae'r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn chwilio am athrawon mathemateg darlithwyr a myfyrwyr ôl-raddedig profiadol a brwdfrydig, gydag angerdd am ddatrys problemau. Bydd rhain yn helpu i ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyfoethogi Mathemateg Safon Uwch newydd cyffrous i fathemategwyr mwyaf addawol ac uchelgeisiol Cymru, er mwyn cefnogi eu datblygiad mathemategol a'u paratoi ar gyfer papurau a phrofion estyniad prifysgol fel STEP a MAT. Bydd y tiwtoriaid yn cefnogi grwpiau bach o fyfyrwyr ledled Cymru ochr yn ochr â'r rhwydwaith o Ganolfannau SEREN.
Am bwy rydym yn chwilio i recriwtio? Ydych chi'r math o berson sy'n caru her o broblem mathemateg anarferol? A fyddech chi'n hoffi gweithio mewn tîm profiadol o unigolion o'r un meddylfryd? A fyddech chi'n hoffi gweithio gyda myfyrwyr uchelgeisiol sy'n llawn cymhelliant, yn cefnogi eu datblygiad fel datryswyr problemau? Os yw eich ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna efallai y byddwch yn y math o berson y hoffai Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach ei recriwtio. Rydym yn croesawu athrawon mathemateg Safon Uwch, darlithwyr SAU, mathemategwyr wedi ymddeol a myfyrwyr ôl-raddedig mathemateg.
Mae'r manteision i ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys:
Sut i wneud cais - e-bostiwch eich CV byr ac amlinelliad byr o'ch profiad wrth gefnogi dysgu mathemateg y tu hwnt i faes llafur ysgolion i Stephen Earles - ste9@aber.ac.uk erbyn 23 o Fehefin. Byddai profiad o bapurau STEP a MAT yn ddymunol ond ddim yn hanfodol. Bydd digon o gefnogaeth ar gael i diwtoriaid sy'n newydd i gwestiynau STEP. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal ar ôl ysgol ac ar Sadyrnau yn dibynnu ar y tiwtor. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad GDG.
Mae adolygiad diweddar o addysg mathemateg ôl-16 yn Lloegr a gynhaliwyd gan Syr Adrian Smith yn amlygu rôl y mae SAU yn ei chwarae wrth ddylanwadu ar y niferoedd sy’n cymryd cymwysterau mathemateg 16-18 yn ogystal â chynnig cefnogaeth i ysgolion a cholegau. Mae'r adroddiad yn dadlau bod angen i brifysgolion fynegi eu hanghenion mathemateg yn ehangach. Mae llawer o fyfyrwyr yn cyrraedd y brifysgol gyda disgwyliadau afrealistig o gynnwys mathemategol eu cwrs gradd. Fodd bynnag, mae anghenion mynediad prifysgol yn dylanwadu'n drwm ar ysgolion a cholegau ac felly mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai prifysgolion "nodi a chydnabod gwerth cymwysterau mathemateg lefel 3 ar gyfer mynediad i gwrs israddedig yn well gydag elfen feintiol sylweddol" (argymhelliad 4). Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod y rôl y mae SAU yn ei chwarae wrth gefnogi addysgu mathemateg. Mae enghreifftiau da yn cynnwys prifysgolion yn sefydlu chweched dosbarth mathemateg gyda phwyslais cryf ar fathemateg (King's College, Llundain, Prifysgol Caerwysg) a datblygu deunyddiau addysgu sy'n cael eu hysbysu gan ymchwil academaidd (Canolfan Addysg Mathemateg ym Mhrifysgol Loughborough sy'n gweithio gyda Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach (RhGMBC) a Phrosiect Mathemateg Underground dan arweiniad Prifysgol Caergrawnt). Mae'r adroddiad yn amlygu effaith y RhGMBC ar y ddarpariaeth Mathemateg Bellach yn ogystal â datblygiad proffesiynol athrawon. Soniwyd hefyd am RhGMBC, ochr yn ochr âg Isaac Physic MOOC ar gyfer addysgu Safon Uwch, fel enghreifftiau da o dechnoleg a ddefnyddir i fynd i'r afael â phrinder lle. Mae'r adroddiad yn gwahodd ymchwiliad i rôl ac effeithiolrwydd technoleg wrth addysgu mathemateg 16-18 ac mae'n argymell ariannu adnoddau datblygu proffesiynol ar-lein. Paratowyd y crynodeb gan RhGMBC. Cysylltwch â Dr Sofya Lyakhova at S.Lyakhova@Swansea.ac.uk am ragor o wybodaeth. Mae testun llawn yr adroddiad
Darllenwch yr Adroddiad Llawn....
Roedd y cwrs rhagbrawf STEP 2 a 3, a drefnwyd gan Goleg Gwyr Abertawe a'r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach (RhGMBC) Cymru yn llwyddiant, gyda dau fyfyriwr yn cael eu derbyn i astudio Mathemateg ym mhrifysgol Caergrawnt yn 2015. Llongyfarchiadau i Omkar Kamat o Ysgol Bassaleg a Jamie Dougherty o Goleg Gwyr Abertawe.
TMae canlyniadau lefel A Mathemateg Bellach eleni unwaith eto'n achos dathlu yng Nghymru a bydd mwy o fyfyrwyr o Gymru yn mynd ymlaen i astudio gradd STEM gyda chymhwyster Mathemateg Pellach.
Darllenwch Mwy tudlen 1....
Darllenwch Mwy tudlen 2....
Mae canlyniadau lefel A Mathemateg Bellach eleni unwaith eto'n achos dathlu yng Nghymru. Mae'r canlyniadau Mathemateg a Mathemateg Bellach wedi adeiladu ar y cynnydd a welwyd yn y nifer oedd yn sefyll y pynciau hynny'r llynedd, gan godi ymhellach. Cyrhaeddodd cyfran y myfyrwyr Mathemateg a safodd lefel A Mathemateg Bellach 11.7%, sef y canlyniad uchaf erioed mewn Mathemateg Bellach yng Nghymru.
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe weithdy AAU (MSOR) llwyddiannus o'r enw Mynd i'r Afael â Phontio mewn Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol ar ddydd Mawrth 25 Mawrth, 2014. Gwelodd y digwyddiad llwyddiannus 21 o gynrychiolwyr o Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Addysg Uwch ar draws Canolbarth a De Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried y problemau a'r materion pontio sy'n codi i fyfyrwyr sy'n mynd i Addysg Uwch ac i ddod o hyd i syniadau dyfeisgar a fyddai'n helpu i reoli a gwella y cyfnod pontio.
Ym mis Rhagfyr 2013 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cyllid yn cael ei ddarparu dros gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer parhad RhGMBC. Bydd y cyllid blynyddol sylweddol o £225,000 ar gael yn 2014-2015 a 2015-2016. Dywedodd y Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Huw Lewis "Rydym wedi gwneud ymrwymiad i wella lefelau rhifedd a gwella'r pynciau STEM - gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg". "Mae lefel uchel o sgiliau mathemateg yn agor drysau i gynifer o yrfaoedd ar gyfer ein dysgwyr, ac mae'n rhaid i ni eu cefnogi i gael y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo".
Mae canlyniadau lefel A Mathemateg Pellach eleni yn achos dathlu eto yng Nghymru. Mae canlyniadau Mathemateg a Mathemateg Bellach yn adeiladu ar llynedd gyda chynnydd pellach.
Mwy o ddisgyblion i elwa wrth Raglen Mathemateg estynedig gyda chyllid Llywodraeth Cymru Mae rhagor o ddisgyblion a myfyrwyr yng Nghymru yn mynd i gael cymorth gyda Mathemateg gan i Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ymestyn y prosiect yn y flwyddyn academaidd 2013/2014. Dechreuodd cynllun peilot Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru ym mis Hydref 2010 ac roedd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Benfro, ond bydd y cynnydd yn y cyllid yn golygu y bydd Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn a rhannau eraill o Ogledd Cymru yn cael eu cynnwys yn y prosiect.
Yn fwy manwl:
Canlyniadau Mathemateg Bellach eleni yn achos dathlu go iawn yng Nghymru. Mae cyfran y myfyrwyr Mathemateg a safodd Mathemateg Bellach Safon Uwch wedi cyrraedd 9.2%, sef y canlyniad uchaf erioed a hefyd y twf blynyddol cyflymaf mewn Mathemateg Bellach yn yr wyth mlynedd diwethaf. O'i gymharu â'r llynedd mae nifer y myfyrwyr Mathemateg Bellach Safon Uwch wedi cynyddu bron i 29% o 240 i 309.